Design a site like this with WordPress.com
Get started
Featured

Cefndir i’r ymchwil

Cynhaliwyd y gwaith ymchwil gan WISERD i geisio deall sut gellid cynorthwyo llywodraethwyr ysgolion yng Nghymru â’u gwaith. Casglwyd data trwy gyfweliadau manwl â llywodraethwyr sy’n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd ac arolwg llywodraethwyr, a weinyddwyd yn genedlaethol. Roedd y canfyddiadau o’r data hyn wedi ein galluogi i ddatblygu astudiaethau achos a gynhyrchwyd gan lywodraethwyr. Nodau’r astudiaethau achos hyn yw: annog myfyrio ar y mathau o faterion y gallai llywodraethwyr ddod ar eu traws yn eu rôl; dangos sut mae llywodraethwyr wedi mynd i’r afael â materion; ysgogi sgyrsiau a rhannu gwybodaeth ar draws cyrff llywodraethu. Mae tair thema gyffredinol i’r astudiaethau achos: y rhai sy’n rhoi enghreifftiau o arfer da; y rhai sy’n amlygu heriau llywodraethu; a’r rhai sy’n datgelu sut gall llywodraethwyr gymryd cam gwag neu wynebu problemau. Mae’n bwysig bod defnyddwyr yn cydnabod defnyddiau gwahanol yr achosion ac yn sylweddoli mai myfyrdodau a grëwyd gan lywodraethwyr yw’r rhain, nid atebion diffiniol neu hanesion cyflawn. Yn gyffredinol, gwelwn y gallai achosion sy’n mynd i’r afael â heriau fod yn ddefnyddiol i lywodraethwyr newydd eu hystyried fel modd o ehangu eu safbwyntiau ar y rôl; gellir rhannu enghreifftiau o arfer da yn ehangach ac maen nhw’n cynnig awgrymiadau ynglŷn â ffyrdd y mae llywodraethwyr wedi mynd i’r afael â materion; byddai achosion sy’n cyflwyno anawsterau a phroblemau y mae llywodraethwyr wedi’u hwynebu yn fwyaf buddiol mewn sefyllfaoedd hyfforddi lle y gellir darparu gwybodaeth a deunyddiau ychwanegol. Sylwch nod astudiaeth achos cyn ei defnyddio: Myfyrio; Cipolwg; Trafod.

NodThemaDefnydd
MyfyrioHeriauLlywodraethwyr newydd, sefydlu
CipolygonArfer daLlywodraethwyr yn mynd i’r afael â materion penodol
TrafodProblemauSefyllfaoedd hyfforddi

Trefnwyd yr astudiaethau achos hyn fesul thema a gellir eu chwilio trwy eiriau allweddol a thagiau pwnc. Rydym wedi cyflwyno’r rhain mewn fformat blog i ganiatáu i gydweithwyr ysgrifennu ymatebion a galluogi’r casgliad i dyfu a datblygu. Sylweddolwn fod y casgliad yn gyfyngedig mewn sawl ffordd, o ran nifer yr astudiaethau achos o ysgolion uwchradd, ysgolion pob oed ac ysgolion arbennig, ac o ran y pynciau yr ymdrinnir â nhw. Fodd bynnag, rydym wedi penderfynu bwrw ymlaen i’w cyhoeddi yn y gobaith y bydd hyn yn annog llywodraethwyr eraill i gyfrannu eu profiadau a’u cipolygon, yn ogystal â phrofi gwerth adnodd o’r fath. Mae sylwebaeth ddefnyddiol, ynghyd â dolenni i adnoddau ychwanegol mewn sawl achos, yn cyd-fynd â phob astudiaeth achos ac argymhellwn fod llywodraethwyr yn darllen y rhain ochr yn ochr â myfyrdodau personol eu cydweithwyr.

Ceir dolen i ffurflen hefyd y gall llywodraethwyr ei defnyddio i gyfrannu astudiaethau achos newydd: Pro-forma Myfyrdodau Llywodraethwyr.

Cydnabyddiaethau

Hoffem ddiolch yn ddiffuant i’r holl lywodraethwyr a gyfrannodd at yr ymchwil; y rhai hynny a wirfoddolodd i gael eu cyfweld a’r cannoedd o lywodraethwyr ledled Cymru a gwblhaodd yr arolwg. Rhaid diolch yn arbennig hefyd i’r llywodraethwyr a ddarparodd astudiaethau achos, y defnyddir llawer ohonynt yma.

Rhoddodd nifer o unigolion eraill wybodaeth a chymorth gwerthfawr, gan gynnwys cydweithwyr yn Estyn, Awdurdodau Lleol a Chonsortia. Rydym yn arbennig o ddyledus i Wasanaethau Llywodraethwyr Cymru am eu cymorth a’u cyngor, a roddodd o’u hamser yn hael i adolygu’r astudiaethau achos a darparu nodiadau canllaw gwerthfawr gyda dolenni i adnoddau defnyddiol. 

Sut i fynd i’r afael â diffyg cyllidebol

Sylwebaeth

Un o brif rolau’r corff llywodraethu yw gosod blaenoriaethau ariannol ar gyfer yr ysgol a monitro gwariant yn erbyn cyllideb yr ysgol.  Er bod cyllid yn cael ei ddyrannu o flwyddyn i flwyddyn (yn dibynnu ar niferoedd disgyblion, yn bennaf), mae’n arfer gorau i’r corff llywodraethu a staff yr ysgol gynllunio’r gweithgareddau gwella ysgol dros gyfnod o dair blynedd.  Bydd angen adolygu hyn pan fydd y gyllideb wedi cael ei chytuno ym mis Mai bob blwyddyn.  Mae Pennod 8 y Canllaw i’r Gyfraith i Lywodraethwyr Ysgolion yn rhoi trosolwg defnyddiol o reoli cyllideb yr ysgol:

https://llyw.cymru/canllaw-ir-gyfraith-i-lywodraethwyr-ysgolion

Mae gan Wasanaethau Llywodraethwyr Cymru ganllaw ar gyllid ysgolion hefyd a allai fod yn ddefnyddiol.  Mae’n cynnwys gwybodaeth am rôl y pwyllgor cyllid, cysylltu’r gyllideb â’r Cynllun Datblygu Ysgol, a chwestiynau y gallai llywodraethwyr eu gofyn wrth drafod a gwerthuso cyllid yr ysgol, yn ogystal â deunydd cyfeirio ychwanegol:

http://www.governors.cymru/cyhoeddiadau/2018/08/29/canllaw-i-lywodraethwyr-ar-lywodraethwyr-chyllid/

Mae’n amlwg y bydd ymgeisio am grantiau, derbyn nawdd a rôl y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon wrth godi arian at ddibenion penodol o gymorth ac yn ganmoladwy iawn. Fodd bynnag, byddai lefel y cyllid a godir yn sicr yn newid o flwyddyn i flwyddyn, felly er bod hyn yn ddefnyddiol iawn, nid yw bob amser yn gynaliadwy. 

Mae llawer o ysgolion yn gweithio mewn clystyrau i rannu syniadau a chydweithio ar feysydd penodol. Gallai ysgolion clwstwr rannu staff hyd yn oed, er enghraifft Rheolwr Busnes.  A yw’ch corff llywodraethu wedi meddwl am unrhyw beth fel hyn?

Pan fydd y corff llywodraethu’n wynebu cyllideb ostyngol, mae’n rhaid iddo edrych ar feysydd lle y gall arbed arian, a hynny, gobeithio, heb orfod dechrau’r broses dileu swydd statudol.   Yn anffodus, fodd bynnag, mae’n rhaid i lawer o ysgolion wynebu sefyllfaoedd lle mae swyddi staff yn cael eu dileu, a bydd ganddynt bolisi i’w ddilyn ar gyfer hyn. Ond mae’n bwysig ystyried yr holl opsiynau eraill cyn dilyn y llwybr hwn. Bydd eich Awdurdod Lleol yn gallu eich cynghori ar y prosesau i’w dilyn hefyd.  Mae cyfoeth o wybodaeth ddefnyddiol ar gael.  Dyma rai enghreifftiau:  https://neu.org.uk/advice/redundancy

Bydd yr adeg hon bob amser yn un anodd i bawb sy’n gysylltiedig, felly mae’n rhaid ei thrin mewn modd sensitif.  Dylai’r pennaeth roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r staff am beth sy’n digwydd drwy gydol y broses.

Mae ACAS wedi cynhyrchu canllawiau ar weithdrefnau dileu swydd a gweithdrefnau teg (https://www.acas.org.uk/redundancy), ond mae’n rhaid i’r corff llywodraethu ddilyn y camau a nodir yn ei bolisi ei hun yn yr ysgol.

Ceisiwch gyngor gan yr Awdurdod Lleol neu’r Awdurdod Esgobaethol, fel y bo’n briodol, o’r cychwyn cyntaf neu cysylltwch â Gwasanaethau Llywodraethwyr Cymru ar support@governors.cymru

Penodi pennaeth newydd yn allweddol i fynd i’r afael â materion eraill yn yr ysgol

 Sylwebaeth

Penodi pennaeth newydd yw tasg bwysicaf y corff llywodraethu, yn ôl pob tebyg.  Mae sgiliau’r pennaeth yn arbennig o bwysig wrth sicrhau llwyddiant a gwelliant yr ysgol. Y penaethiaid gorau yw’r rhai sy’n sbarduno’r ysgol i symud ymlaen a sicrhau ymrwymiad cryf i safonau uchel ym mhob agwedd ar waith yr ysgol.  O ystyried hyn, bydd y corff llywodraethu eisiau denu’r ymgeiswyr iawn i’w cyfweld.  Ar ôl dilyniant o benaethiaid dros dro, roedd y corff llywodraethu’n gallu gwneud penodiad rhagorol i symud yr ysgol ymlaen.  Mae gan Wasanaethau Llywodraethwyr Cymru ganllaw ar benodi penaethiaid a dirprwy benaethiaid sy’n cynnwys gwybodaeth am yr hysbyseb, manyleb y swydd a’r pecyn cais:

http://governors.cymru/publications/2018/08/29/governor-guide-appointment-headteachers/

Mae’r astudiaeth achos hon yn amlygu sawl ffactor allweddol:

A oedd y corff llywodraethu’n ymwybodol bod problem gor-staffio ac felly gorwariant?  Lle y ceir diffyg cyllidebol, mae’n hollbwysig bod cyrff llywodraethu’n ystyried y strwythur staffio i benderfynu a oes angen cychwyn gweithdrefnau dileu swydd, neu ystyried contractau oriau gostyngol i geisio lleihau treuliau ariannol.  Er y byddai wedi bod yn amgenach lleihau oriau yn hytrach na cholli staff yn gyfan gwbl, weithiau mae’n rhaid gwneud penderfyniadau anodd, h.y. diswyddiadau gwirfoddol / statudol. 

Nid yw’n glir am ba mor hir y bu gor-staffio’n broblem yn yr ysgol.  A oedd gan y corff llywodraethu bwyllgor cyllid ar waith a oedd yn craffu ar wariant yn yr ysgol? Mae hyn yn ffordd effeithiol o adolygu a monitro cyllid yr ysgol. Mae gan Wasanaethau Llywodraethwyr Cymru gylch gorchwyl enghreifftiol ar gyfer y pwyllgor hwn – http://governors.cymru/finance/ 

Mae Awdurdodau Lleol yn cynnig Cytundeb Lefel Gwasanaeth ar gyfer materion Adnoddau Dynol.  Os oes gan y corff llywodraethu bryderon ynglŷn â’r gwasanaeth y mae’n ei gael o dan y cytundeb hwn, dylid eu codi gyda’r Awdurdod Lleol gan ddefnyddio’r weithdrefn berthnasol. 

Mynd i’r afael â phryderon a achoswyd gan absenoldeb rheolaidd athrawon

Sylwebaeth

Gall materion Adnoddau Dynol ysgolion fod yn gymhleth iawn, felly mae’n bwysig bod cyrff llywodraethu’n adolygu eu polisïau ac yn gyfarwydd â’r prosesau cywir i’w dilyn. Gallai eich Awdurdod Lleol hefyd ddarparu amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi i chi eu dilyn, yn enwedig os ydych yn aelod o unrhyw un o’r pwyllgorau statudol perthnasol, yn ogystal â darparu canllawiau penodol i’ch cynorthwyo.

Bydd gan eich corff llywodraethu’r polisïau canlynol ar waith, sydd fel arfer yn cael eu cynhyrchu gan yr Awdurdod Lleol.

Polisi absenoldeb oherwydd salwch Staff Ysgol

Presenoldeb y Gweithlu Ysgolion –

https://llyw.cymru/presenoldeb-gweithlu-ysgolion-canllawiau

Polisi gallu staff –

https://llyw.cymru/gallu-staff-addysgur-ysgol-canllawiau

Polisi disgyblu staff –

https://llyw.cymru/gweithdrefnau-disgyblu-diswyddo-staff-ysgol

Bydd gan yr ysgol bolisi Rheoli Absenoldeb oherwydd Salwch hefyd, ac mae’n rhaid ei ddilyn pan fydd staff i ffwrdd yn sâl. Os oes cyfnodau hir o absenoldeb, gellid cychwyn y weithdrefn allu, mewn rhai amgylchiadau. Dyna a ddigwyddodd yn yr ysgol hon.

Mae mor bwysig sicrhau bod y polisi perthnasol yn cael ei dilyn yn yr ysgol, oherwydd gallai unrhyw gamgymeriadau godi amheuon ynglŷn â’r weithdrefn gyfan.

Mae’r broses allu yn cymryd amser, gan fod rhaid cynnig y cyfle i’r aelod o staff wella ac mae’n rhaid darparu cymorth. Fel arfer, defnyddir proses 3 cham sy’n cynnwys cam anffurfiol lle y rhoddir rhaglen gymorth ar waith, yna cam mwy ffurfiol lle y gellid rhoi rhybuddion, ac yna’r cam olaf, sef diswyddo. 

Roedd y corff llywodraethu’n ffodus bod ganddo aelodau a chanddynt brofiad ym maes Adnoddau Dynol, ond mae’n hollbwysig cael cyngor gan yr Awdurdod Lleol mewn achosion fel hyn.

Ceisiwch gyngor gan yr Awdurdod Lleol neu’r Awdurdod Esgobaethol, fel y bo’n briodol, o’r cychwyn cyntaf neu cysylltwch â Gwasanaethau Llywodraethwyr Cymru ar support@governors.cymru

Penodi athro pwnc/athrawes bwnc arbenigol sy’n llai na boddhaol

Sylwebaeth

Roedd yr ysgol mewn sefyllfa anodd, a hithau wedi mynd trwy’r broses benodi sawl gwaith.  Fel arfer, byddai’r panel penodi’n penodi’r ymgeisydd gorau i’r rôl, ac roedd yr ysgol wedi mentro ar siawns i benodi rhywun nad oedd yn llwyr fodloni’r safon angenrheidiol, er y bu’n werth chweil yn yr ysgol hon.   Fodd bynnag, peidiwch byth â theimlo pwysau i benodi. Mae’n rhaid iddo fod yn iawn ac mae’n sicr yn werth ystyried opsiynau eraill sydd ar gael trwy drafod â’r Awdurdod Lleol, y Consortiwm Rhanbarthol a’r Awdurdod Esgobaethol, fel rhannu athro/athrawes ag ysgolion eraill, cyfleoedd secondio ac ati.

Mae’n bwysig sicrhau bod cymorth ar gael i unrhyw aelod newydd o staff.  Gallai hyn fod yn gyfnod sefydlu anffurfiol neu’n becyn mwy cynhwysfawr wedi’i seilio ar lefelau profiad ac ati.

Weithiau, mae athrawon yn gwneud yn well o flaen dosbarth nag yn ystod y broses benodi, felly dylai paneli penodi gadw meddwl agored.  A arsylwyd ar wersi yn rhan o’r broses gyfweld? 

Ceisiwch gyngor gan yr Awdurdod Lleol neu’r Awdurdod Esgobaethol, fel y bo’n briodol, o’r cychwyn cyntaf neu cysylltwch â Gwasanaethau Llywodraethwyr Cymru ar support@governors.cymru

Sefydlu polisïau iechyd a diogelwch cywir

Sylwebaeth

Mae’r ysgol a’r corff llywodraethu yn berffaith iawn i wirio ac adolygu’r cynlluniau gwacáu mewn argyfwng. Mae hyn yn hollbwysig i ddiogelwch pawb yn yr ysgol.

Yr Awdurdod Lleol (ALl) sy’n berchen ar adeiladau a thir ysgolion cymunedol.  Y corff llywodraethu neu’r ymddiriedolwyr sy’n berchen ar dir ysgolion sefydledig.  O ran ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir, yr ymddiriedolwyr sy’n berchen ar adeiladau a thir yr ysgol fel arfer, er efallai mai’r Awdurdod Lleol fydd yn berchen ar dir y maes chwarae.   Mae Pennod 25 y Canllaw i’r Gyfraith i Lywodraethwyr Ysgolion yn cynnwys pennod ddefnyddiol ar Iechyd a Diogelwch sy’n amlygu’r cyfrifoldebau ar gyfer y gwahanol gategorïau ysgolion –

https://llyw.cymru/canllaw-ir-gyfraith-i-lywodraethwyr-ysgolion

Tybir yn yr achos hwn mai ysgol gymunedol yw’r ysgol dan sylw.

Bydd gan yr ysgol bolisi iechyd a diogelwch a nodir ei bod wedi ceisio cyngor gan sawl asiantaeth allweddol hefyd.  Yn ddi-au, byddai asesiadau risg wedi cael eu cynnal a disgwylir y byddai’r Awdurdod Lleol wedi bod yn allweddol wrth gynorthwyo’r ysgol i benderfynu ar y ffordd briodol ymlaen.

Mae llawer o gyrff llywodraethu’n penodi llywodraethwr cyswllt ar gyfer iechyd a diogelwch, yn ogystal â ffurfio pwyllgor safle, iechyd a diogelwch.  Mae gan Wasanaethau Llywodraethwyr Cymru wybodaeth am y rhain:

Rôl llywodraethwr cyswllt – http://governors.cymru/hsgovernor-cy/

Pwyllgor Safle, Iechyd a Diogelwch – http://governors.cymru/eiddo-iechyd-diogelwch/

O ystyried cymhlethdod iechyd a diogelwch, mae’n hanfodol bod yr ysgol a’r corff llywodraethu’n ceisio cyngor gan yr arbenigwyr, felly cysylltwch â’r swyddogion perthnasol yn yr Awdurdod Lleol a fydd yn gallu eich cynghori yn y lle cyntaf. A yw’r corff llywodraethu wedi llofnodi Cytundeb Lefel Gwasanaeth ar gyfer atgyweiriadau a chynnal a chadw gyda’r Awdurdod Lleol?  Pa mor aml mae archwiliadau iechyd a diogelwch yn cael eu cynnal? A oes swyddog iechyd a diogelwch dynodedig ar gyfer yr ysgol?

Mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch lawer o wybodaeth ddefnyddiol hefyd:

https://www.gov.uk/government/publications/health-and-safety-advice-for-schools/responsibilities-and-duties-for-schools

https://www.gov.uk/government/publications/fire-safety-in-new-and-existing-school-buildings/fire-safety-in-new-and-existing-school-buildings

Mae’r astudiaethau achos yn dangos bod rhywfaint o amwysedd yn codi o’r drafodaeth o hyd. Mae’n hanfodol, felly, bod llwybr gweithredu clir yn cael ei gytuno gyda’r rhanddeiliaid allweddol cyn gynted â phosibl. Mae’n bwysig iawn cadw trywydd papur fel sylfaen dystiolaeth hefyd.

Adolygu a newid y dystiolaeth y mae ei hangen mewn adolygiad o berfformiad pennaeth

Sylwebaeth

Bydd gan bob ysgol bolisi rheoli perfformiad sy’n amlinellu’r paramedrau ar gyfer proses rheoli perfformiad staff addysgu a’r pennaeth.

Mae rheoli perfformiad yn rhoi cyfle i staff addysgu’r ysgol fyfyrio ar eu hymarfer a’i asesu yn erbyn y safonau proffesiynol yn ystod y flwyddyn

https://hwb.gov.wales/datblygiad-proffesiynol/safonau-proffesiynol

 Bydd amcanion yn cael eu gosod a fydd yn cyfrannu at flaenoriaethau datblygu’r ysgol a chynllunio strategol. Dylai’r corff llywodraethu sicrhau bod rheoli perfformiad yn cael ei amseru i gyd-fynd â blwyddyn gynllunio’r ysgol lle y bo’n bosibl. Ni ddylai fod yn broses feichus. Bydd ymgorffori hyn yn amserlen waith yr ysgol yn galluogi aelodau’r panel i wybod ymhell o flaen llaw pryd y bydd y broses yn cael ei chynnal. Proses gefnogol ydyw, yn anad dim.  Mae rhagor o wybodaeth am sut i gynnal proses rheoli perfformiad y pennaeth ar gael yma:

https://hwb.gov.wales/datblygiad-proffesiynol/rheoli-perfformiad

Mae rheoli perfformiad yn broses barhaus sy’n cynnwys cynllunio, monitro ac adolygu. Mae’r panel yn cynnwys o leiaf 2 lywodraethwr a hyd at 2 gynrychiolydd o’r Awdurdod Lleol, a fydd yn cytuno ar yr amcanion, ynghyd â’r pennaeth. Fodd bynnag, bydd y drafodaeth gyffredinol yn cael ei llywio gan gynnydd yr ysgol, cyrhaeddiad blaenorol a’r cyfraniad y mae’r pennaeth yn ei wneud ac wedi’i wneud tuag at sicrhau gwelliant yn yr ysgol. Yn ogystal, bydd y drafodaeth yn canolbwyntio ar y datblygiad a’r cymorth sy’n angenrheidiol, a’r cyfan yn ystyried cydbwysedd bywyd a gwaith y pennaeth.

Pan fydd targedau wedi’u gosod, dylid cytuno ar sut y bydd perfformiad y pennaeth yn cael ei fonitro drwy gydol y flwyddyn.  Gall gweithdrefnau monitro gynnwys amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys cofnod adolygu a datblygu ymarfer y pennaeth; y cynllun datblygu ysgol; gwybodaeth am berfformiad yr ysgol ac ati, yn ogystal â thrafodaethau anffurfiol yn ystod y flwyddyn.

Mae’n sicr yn arfer da i waith papur a data perthnasol gael eu hanfon mewn da bryd cyn y cyfarfod. Bydd hyn yn golygu y gellir ystyried y wybodaeth yn ofalus ac yn rhoi canolbwynt clir i’r drafodaeth, a bydd yn helpu i hwyluso’r cyfarfod.

Mae Gwasanaethau Llywodraethwyr Cymru wedi llunio cylch gorchwyl ar gyfer y cyfarfod arfarnu:

http://www.governors.cymru/penn-rhp/

Beth sy’n digwydd pan fydd sefydliadau allanol yn anghytuno ar safle’r ysgol

Sylwebaeth

Dyma sefyllfa ddiddorol. Byddai’n ddefnyddiol gwybod mwy am y cefndir a’r amgylchiadau ynglŷn â sut y gwnaed y trefniadau cychwynnol. Tybir mai ysgol gymunedol ydyw, ond nid yw’r trefniadau cyfreithiol a chytundebol ar gyfer y ddau sefydliad yn glir. A ydynt yn endidau ar wahân i’r ysgol ac a yw’r ddau weithrediad yn hurio safle’r ysgol?  Os felly, a oes gan yr ysgol ‘bolisi defnyddio safle’?

Wedi dweud hynny, mae’n drueni pan fydd sefydliadau’n anghytuno. Gall hyn gael effaith gynyddol ar y gwaith y mae pobl yn ei wneud, sef darparu gofal y tu allan i’r ysgol i blant yn yr achos hwn. Mae’r materion cyfreithiol yn parhau, yn amlwg, a gobeithir y bydd y sefyllfa’n cael ei datrys yn gyflym.

Mae’n rhaid i lywodraethwyr bob amser gwblhau datganiad buddiannau busnes bob blwyddyn, a hynny fel arfer yng nghyfarfod cyntaf y corff llywodraethu yn nhymor yr Hydref. Mae gan Wasanaethau Llywodraethwyr Cymru wybodaeth am hyn, yn ogystal â ffurflen dempledhttp://governors.cymru/cyhoeddiadau/2019/08/01/cofrestr-busnes-buddiannau-eraill/

Efallai y bydd gan yr Awdurdod Lleol ffurflenni busnes y gall llywodraethwyr eu defnyddio hefyd.

Mae’n rhaid i unrhyw lywodraethwr a allai elwa o ganlyniad penderfyniad ddatgan buddiant mewn unrhyw eitem benodol ar yr agenda a’i esgusodi ei hun o’r cyfarfod, gan beidio â chymryd unrhyw ran yn y drafodaeth na’r bleidlais. 

Mae’n arfer da i Gadeirydd y llywodraethwyr wirio ar ddechrau pob cyfarfod nad oes gwrthdaro buddiannau yn ymwneud ag unrhyw un o eitemau’r agenda.

Os oes unrhyw amheuaeth ynglŷn â ph’un a ddylai llywodraethwr esgusodi ei hun ai peidio, bydd angen i’r corff llywodraethu wneud y penderfyniad.

Mae gwybodaeth fanwl am y cyfyngiadau ar unigolion sy’n cymryd rhan mewn trafodion corff llywodraethu a phwyllgorau ar gael ym Mhennod 4 y Canllaw i’r Gyfraith i Lywodraethwyr Ysgolion

https://llyw.cymru/canllaw-ir-gyfraith-i-lywodraethwyr-ysgolion

Dylech wastad wirio’r sefyllfa os ydych, fel llywodraethwr, yn ansicr. Mae angen bod yn ddiduedd ac yn wrthrychol bob amser.

http://governors.cymru/cyhoeddiadau/2019/08/01/cofrestr-busnes-buddiannau-eraill/

Mae’r astudiaeth achos hefyd yn dangos bod cwyn wedi cael ei gwneud a bod ymchwiliad wedi cael ei gynnal. Ond nid yw natur y gŵyn yn eglur h.y. a yw’r gŵyn yn ymwneud â llywodraethwr a chanddo wrthdaro canfyddedig? Mae rhagor o wybodaeth am brosesau cwyno ar gael yma

https://llyw.cymru/gweithdrefnau-cwyno-ysgolion-canllawiau

Cyfeiriwch at yr adran ar amgylchiadau arbennig ar dudalen 22 adran 4.8 – cwyn am lywodraethwr.

Mae gwybodaeth am ddefnyddio safle’r ysgol ar gael ym Mhennod 26 y Canllaw i’r Gyfraith i Lywodraethwyr Ysgolion:

https://llyw.cymru/canllaw-ir-gyfraith-i-lywodraethwyr-ysgolion

Defnyddio profiadau ac arbenigedd llywodraethwyr i fynd i’r afael â materion ysgol

Sylwebaeth

Bydd gan lawer o lywodraethwyr gyfrifoldeb penodol am feysydd gwaith allweddol. Un ffordd o wneud hyn yw trwy lywodraethwyr cyswllt sy’n gysylltiedig â maes cwricwlwm neu grŵp blwyddyn. Mae hyn yn helpu i rannu’r llwyth gwaith ac yn cynorthwyo llywodraethwyr i gyflawni eu rôl strategol. Bydd pob ysgol yn penodi llywodraethwr i oruchwylio trefniadau a darpariaeth yr ysgol ar gyfer bodloni anghenion dysgu ychwanegol yn benodol. Mae’n bwysig  cael briff clir ar gyfer y rôl hon fel bod pawb yn deall y disgwyliadau o’r cychwyn cyntaf.  Cyfeiriwch ar unrhyw wybodaeth gan eich Awdurdod Lleol, ynghyd â chyhoeddiad Gwasanaethau Llywodraethwyr Cymru: http://governors.cymru/cyhoeddiadau/2018/08/29/archwiliad-sgiliau-llywodraethwr/

Mae’r astudiaeth achos hon yn canolbwyntio ar gefnogi gofynion Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn yr ysgol a’r ffordd orau o gael cymorth i helpu staff yr ysgol. Bydd gan yr ysgol bolisi i’w dilyn ar y cyd â’r Cod Ymarfer AAA sy’n bodoli ar hyn o bryd ar yr adeg ysgrifennu. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei diweddaru pan fydd yr holl gyhoeddiadau newydd ar ADY wedi cael eu cyhoeddi.

https://llyw.cymru/anghenion-addysgol-arbennig-cod-ymarfer

https://llyw.cymru/rhaglen-trawsnewid-anghenion-dysgu-ychwanegol

Bydd gan lawer o lywodraethwyr gyfrifoldeb penodol am feysydd gwaith allweddol. Un ffordd o wneud hyn yw trwy lywodraethwyr cyswllt sy’n gysylltiedig â maes cwricwlwm neu grŵp blwyddyn. Mae hyn yn helpu i rannu’r llwyth gwaith ac yn cynorthwyo llywodraethwyr i gyflawni eu rôl strategol. Bydd pob ysgol yn penodi llywodraethwr neu bwyllgor i oruchwylio trefniadau a darpariaeth yr ysgol ar gyfer bodloni anghenion dysgu ychwanegol yn benodol. Mae’n bwysig bod â chylch gorchwyl ar gyfer y rôl hon fel bod pawb yn deall y disgwyliadau o’r cychwyn cyntaf. Cyfeiriwch ar unrhyw wybodaeth gan eich Awdurdod Lleol, ynghyd â chyhoeddiad Gwasanaethau Llywodraethwyr Cymru:

http://www.governors.cymru/sengovernor-cy/

Byddai llywodraethwr sydd ag arbenigedd helaeth fel hyn yn amhrisiadwy i ysgol. Byddai’n syniad da trefnu cyfarfod gyda staff ac asiantaethau perthnasol, fel y bo’n briodol, i gadarnhau paramedrau sut y gellir defnyddio arbenigedd y llywodraethwr yn effeithiol, yn ogystal ag ystyried sut gall pawb gydweithio er pennaf les disgyblion. 

Bydd trafod y cwestiynau a gwybodaeth a fydd yn angenrheidiol yn allweddol i lwyddiant, oll yn unol â pholisi’r ysgol ac ymweliadau gan y llywodraethwr. Yna, gall y llywodraethwr cyswllt gyflwyno adroddiad i’r corff llywodraethu fel diweddariad.

http://www.governors.cymru/cyhoeddiadau/2008/10/08/protocol-governor-visits-cy/

Rhoddir yma rai enghreifftiau o gwestiynau defnyddiol (mae rhai yn gyffredinol) y gellir eu gofyn:

http://governors.cymru/media/files/documents/2020-01-03/Questions_to_ask_-_NLDB_Oct_2014-cy.pdf

Sylwch y bydd cyflwyno’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) nawr yn cychwyn ym mis Medi 2021. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth isod ynghylch rolau a chyfrifoldebau penodol.

https://llyw.cymru/anghenion-dysgu-ychwanegol-anghenion-addysgol-arbennig

https://llyw.cymru/y-cod-anghenion-dysgu-ychwanegol-ar-rheoliadau

Sut i sicrhau bod polisïau’n addas i’r diben

Sylwebaeth

Un o brif gyfrifoldebau cyrff llywodraethu yw “gosod polisïau ar gyfer yr ysgol i gyflawni’r nodau a’r amcanion”.  Ffynhonnell: Rheoliadau Cylch Gwaith (Cymru) 2000.

Mae gan ysgolion amryw bolisïau ar waith, y mae llawer ohonynt yn statudol, y mae’n rhaid iddynt oll gael eu cadw’n gyfredol a bod yn addas i’r diben.   Pan fydd gan gyrff llywodraethu nifer fawr o eitemau i’w trafod mewn cyfarfodydd, weithiau rhoddir “sêl bendith” i bolisïau yn hytrach na’u harchwilio a’u trafod cyn cytuno arnynt.

Mae sefydlu pwyllgor i adolygu polisïau yn syniad da iawn, gan fod hyn yn gadael mwy o amser mewn cyfarfodydd corff llywodraethu llawn i drafod, monitro a gwerthuso blaenoriaethau gwella ysgol.

Fel arfer, mae Awdurdodau Lleol yn llunio polisïau yn ymwneud â staffio, sydd eisoes wedi bod yn destun ymgynghoriad â’r cynrychiolwyr undeb llafur lleol.

Mae’n arfer da llunio rhestr wirio adolygu, fel bod yr holl bolisïau’n cael eu hadolygu dros gyfnod, er enghraifft tair blynedd.  Wedi dweud hynny, gellir adolygu polisïau’n gynharach hyd yn oed os oes cyfnod adolygu treigl ar waith, er enghraifft os yw mater yn codi sy’n amlygu diffyg posibl mewn polisi. Fodd bynnag, rhaid adolygu rhai polisïau bob blwyddyn. Mae gan Wasanaethau Llywodraethwyr Cymru restr o ddogfennau a pholisïau statudol y mae angen i gyrff llywodraethu fod â nhw ar waith – http://governors.cymru/cyhoeddiadau/2018/08/29/dogfennau-polisi/

Mynd i’r afael â materion iechyd a diogelwch yn ymwneud ag adeilad yr ysgol

Sylwebaeth

Yr Awdurdod Lleol (ALl) sy’n berchen ar adeiladau a thir ysgolion cymunedol.  Y corff llywodraethu neu’r ymddiriedolwyr sy’n berchen ar dir ysgolion sefydledig.  O ran ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir, yr ymddiriedolwyr sy’n berchen ar adeiladau a thir yr ysgol fel arfer, er efallai mai’r Awdurdod Lleol fydd yn berchen ar dir y maes chwarae.  Tybir yn yr achos hwn mai ysgol gymunedol yw’r ysgol dan sylw.  Fodd bynnag, darperir y cyllid ar gyfer gwaith atgyweirio a chynnal a chadw dydd i ddydd trwy gyllideb ddirprwyedig yr ysgol.  Mae’r Canllaw i’r Gyfraith i Lywodraethwyr Ysgolion yn cynnwys pennod ddefnyddiol ar Iechyd a Diogelwch sy’n amlygu’r cyfrifoldebau ar gyfer y gwahanol gategorïau ysgolion.

https://llyw.cymru/canllaw-ir-gyfraith-i-lywodraethwyr-ysgolion

Bydd gan yr ysgol bolisi iechyd a diogelwch ar waith a nodir ei bod wedi ceisio cyngor gan sawl asiantaeth allweddol hefyd.  Yn ddi-au, byddai asesiadau risg wedi cael eu cynnal a disgwylir y byddai’r Awdurdod Lleol wedi bod yn allweddol wrth gynorthwyo’r ysgol i benderfynu ar y ffordd briodol ymlaen.

Mae llawer o gyrff llywodraethu’n penodi llywodraethwr cyswllt ar gyfer iechyd a diogelwch, yn ogystal â ffurfio pwyllgor safle, iechyd a diogelwch.  Mae gan Wasanaethau Llywodraethwyr Cymru wybodaeth am y rhain:

Rôl llywodraethwr cyswllt – http://governors.cymru/hsgovernor-cy/

Pwyllgor Safle, Iechyd a Diogelwch – http://governors.cymru/eiddo-iechyd-diogelwch/

O ystyried cymhlethdod iechyd a diogelwch, mae’n hanfodol bod yr ysgol a’r corff llywodraethu’n ceisio cyngor gan yr arbenigwyr, felly cysylltwch â’r swyddogion perthnasol yn yr Awdurdod Lleol a fydd yn gallu eich cynghori yn y lle cyntaf.   A yw’r corff llywodraethu wedi llofnodi Cytundeb Lefel Gwasanaeth ar gyfer atgyweiriadau a chynnal a chadw gyda’r Awdurdod Lleol?  Mae’n hollbwysig bod y materion yn cael eu cywiro er mwyn iechyd a diogelwch disgyblion a staff ar safle’r ysgol.

Rhai cwestiynau i’w gofyn:

  • Pa mor aml mae archwiliadau iechyd a diogelwch yn cael eu cynnal?
  • A oes swyddog iechyd a diogelwch dynodedig ar gyfer yr ysgol?

Mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch lawer o wybodaeth ddefnyddiol hefyd.

https://www.gov.uk/government/publications/health-and-safety-advice-for-schools/responsibilities-and-duties-for-schools