Design a site like this with WordPress.com
Get started

Pro-forma myfyrdodau llywodraethwyr ysgolion

Mae’r pro-forma a ddarperir trwy’r ddolen ar y dudalen hon yn rhan o brosiect ymchwil parhaus a luniwyd i gynorthwyo llywodraethwyr ysgolion yng Nghymru. Ariennir y prosiect gan CCAUC ac fe’i cynhelir gan WISERD, Prifysgol Caerdydd. 

Hoffem gael eich help i greu astudiaethau achos neu fyfyrdodau sy’n seiliedig ar eich profiad fel llywodraethwr ysgol. Gallai’r rhain ymwneud â materion rydych wedi’u trafod fel corff llywodraethu neu’n unigol fel llywodraethwr. Mae’n bosibl bod problemau wedi’u datrys yn llwyddiannus neu fod gwersi anodd wedi’u dysgu oherwydd nad oedd pethau wedi digwydd yn ôl y bwriad. Beth bynnag yw’r sefyllfa, os credwch y gallai llywodraethwyr eraill ei chael yn ddiddorol, hoffem i chi ei disgrifio.
 

https://socsi.qualtrics.com/jfe/form/SV_bKKlE5n2qh7f1qZ


Mae’r cwestiynau a’r ysgogiadau yma fel awgrymiadau. Ystyriwch faint o fanylion y byddai eu hangen ar gyd-lywodraethwr i ddeall y disgrifiadau a roddir. Os oes gennych fwy nag un astudiaeth achos i’w chynnig, llenwch ffurflen ar wahân ar gyfer pob pwnc newydd. 
 
 Defnyddiwch y gofod hefyd i ddweud wrthym am unrhyw faterion yr hoffech glywed amdanynt.
  
Rhoddir isod restr o bynciau y mae llywodraethwyr wedi dweud wrthym yr hoffent glywed amdanynt gan eu cydweithwyr sy’n gweithio mewn ysgolion eraill. Edrychwch ar y rhestr ac ystyriwch ddarparu gwybodaeth am eich profiadau o un neu fwy o’r rhain:        

  • Beth sy’n gwneud Cadeirydd da 
  • Annog llywodraethwyr i fod yn fwy gweithredol    
  • Cwestiynau heriol i’r Pennaeth
  • Cyfarfodydd corff llywodraethu (CLl) – cadw at yr agenda    
  • Mynd i’r afael â phryderon ynghylch staff a materion eraill yn yr ysgolYmdrin â chwynion 
  • Sut i ddeall addysg a data yn well          
  • Strwythurau corff llywodraethu    
  • Ymweliadau ysgol effeithiol            
  • Cyfrifoldebau llywodraethwyr       
  • Sut i fod yn gyfaill beirniadol      
  • Rôl pwyllgorau    
  • Materion staffio (Adnoddau Dynol) 
  • Penodi staff 
  • Sut i ymgysylltu’n well â staff addysguMaterion yn ymwneud â Chymdeithasau Rhieni ac Athrawon a’r berthynas â Chyrff Llywodraethu          
  • Rheoli cyllid ysgolion
  • Dileu swydd            
  • Cyfathrebu â rhieni             
  • Cyfrannu mewn cyfarfodydd Corff LlywodraethuJargon addysgol     
  • Sut i ymdopi â phrinder arian            
  • Sut i recriwtio corff llywodraethu mwy cynrychioliadol     
  • Materion diogelu 
  • Strwythurau ysgolion ac addysgol        
  • Pwyslais strategol yn hytrach na gweithredol         
  • Derbyn myfyrwyr    
  • Adeiladau a safleoedd         
  • Materion cyfrinachedd              
  • Ymdrin â bwlio ac aflonyddu          
  • Sut mae polisïau a mentrau’n effeithio ar yr ysgol        
  • Y ffordd orau o ddefnyddio cyllid y Grant Datblygu Disgyblion (PDG)           
  • Sut i wella’r amgylchedd gweithio mewn ysgol          
  • Sut i wneud gwahaniaeth yn eich ysgol      
  • Sut i reoli salwch Pennaeth        
  • Sut i leihau’r pwysau ar Benaethiaid a staff     
  • Cyfweld – recriwtio      
  • Newidiadau’r cwricwlwm newydd       
  • Rheoli perfformiad    
  • Recriwtio rhiant-lywodraethwyr       
  • Y berthynas rhwng y corff llywodraethu a’r Pennaeth     
  • Rôl yr is-gadeiryddCau ysgol       
  • Arolygiadau ysgol     
  • Rheoli amser yn y rôl      
  • Amrywiadau rhwng Awdurdodau Lleol a chyrff llywodraethu     
  • Chwythu’r chwiban           
  • Gweithio fel cynghorydd herio

Dolen i’r pro-forma astudiaeth achos: https://socsi.qualtrics.com/jfe/form/SV_bKKlE5n2qh7f1qZ

%d bloggers like this: