Sut i fynd i’r afael â diffyg cyllidebol

Sylwebaeth Un o brif rolau’r corff llywodraethu yw gosod blaenoriaethau ariannol ar gyfer yr ysgol a monitro gwariant yn erbyn cyllideb yr ysgol.  Er bod cyllid yn cael ei ddyrannu o flwyddyn i flwyddyn (yn dibynnu ar niferoedd disgyblion, yn bennaf), mae’n arfer gorau i’r corff llywodraethu a staff yr ysgol gynllunio’r gweithgareddau gwella ysgolContinue reading “Sut i fynd i’r afael â diffyg cyllidebol”

Penodi pennaeth newydd yn allweddol i fynd i’r afael â materion eraill yn yr ysgol

 Sylwebaeth Penodi pennaeth newydd yw tasg bwysicaf y corff llywodraethu, yn ôl pob tebyg.  Mae sgiliau’r pennaeth yn arbennig o bwysig wrth sicrhau llwyddiant a gwelliant yr ysgol. Y penaethiaid gorau yw’r rhai sy’n sbarduno’r ysgol i symud ymlaen a sicrhau ymrwymiad cryf i safonau uchel ym mhob agwedd ar waith yr ysgol.  O ystyriedContinue reading “Penodi pennaeth newydd yn allweddol i fynd i’r afael â materion eraill yn yr ysgol”

Mynd i’r afael â phryderon a achoswyd gan absenoldeb rheolaidd athrawon

Sylwebaeth Gall materion Adnoddau Dynol ysgolion fod yn gymhleth iawn, felly mae’n bwysig bod cyrff llywodraethu’n adolygu eu polisïau ac yn gyfarwydd â’r prosesau cywir i’w dilyn. Gallai eich Awdurdod Lleol hefyd ddarparu amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi i chi eu dilyn, yn enwedig os ydych yn aelod o unrhyw un o’r pwyllgorau statudol perthnasol, ynContinue reading “Mynd i’r afael â phryderon a achoswyd gan absenoldeb rheolaidd athrawon”

Penodi athro pwnc/athrawes bwnc arbenigol sy’n llai na boddhaol

Sylwebaeth Roedd yr ysgol mewn sefyllfa anodd, a hithau wedi mynd trwy’r broses benodi sawl gwaith.  Fel arfer, byddai’r panel penodi’n penodi’r ymgeisydd gorau i’r rôl, ac roedd yr ysgol wedi mentro ar siawns i benodi rhywun nad oedd yn llwyr fodloni’r safon angenrheidiol, er y bu’n werth chweil yn yr ysgol hon.   Fodd bynnag,Continue reading “Penodi athro pwnc/athrawes bwnc arbenigol sy’n llai na boddhaol”

Sefydlu polisïau iechyd a diogelwch cywir

Sylwebaeth Mae’r ysgol a’r corff llywodraethu yn berffaith iawn i wirio ac adolygu’r cynlluniau gwacáu mewn argyfwng. Mae hyn yn hollbwysig i ddiogelwch pawb yn yr ysgol. Yr Awdurdod Lleol (ALl) sy’n berchen ar adeiladau a thir ysgolion cymunedol.  Y corff llywodraethu neu’r ymddiriedolwyr sy’n berchen ar dir ysgolion sefydledig.  O ran ysgolion Gwirfoddol aContinue reading “Sefydlu polisïau iechyd a diogelwch cywir”

Adolygu a newid y dystiolaeth y mae ei hangen mewn adolygiad o berfformiad pennaeth

Sylwebaeth Bydd gan bob ysgol bolisi rheoli perfformiad sy’n amlinellu’r paramedrau ar gyfer proses rheoli perfformiad staff addysgu a’r pennaeth. Mae rheoli perfformiad yn rhoi cyfle i staff addysgu’r ysgol fyfyrio ar eu hymarfer a’i asesu yn erbyn y safonau proffesiynol yn ystod y flwyddyn https://hwb.gov.wales/datblygiad-proffesiynol/safonau-proffesiynol  Bydd amcanion yn cael eu gosod a fydd ynContinue reading “Adolygu a newid y dystiolaeth y mae ei hangen mewn adolygiad o berfformiad pennaeth”

Beth sy’n digwydd pan fydd sefydliadau allanol yn anghytuno ar safle’r ysgol

Sylwebaeth Dyma sefyllfa ddiddorol. Byddai’n ddefnyddiol gwybod mwy am y cefndir a’r amgylchiadau ynglŷn â sut y gwnaed y trefniadau cychwynnol. Tybir mai ysgol gymunedol ydyw, ond nid yw’r trefniadau cyfreithiol a chytundebol ar gyfer y ddau sefydliad yn glir. A ydynt yn endidau ar wahân i’r ysgol ac a yw’r ddau weithrediad yn hurioContinue reading “Beth sy’n digwydd pan fydd sefydliadau allanol yn anghytuno ar safle’r ysgol”

Defnyddio profiadau ac arbenigedd llywodraethwyr i fynd i’r afael â materion ysgol

Sylwebaeth Bydd gan lawer o lywodraethwyr gyfrifoldeb penodol am feysydd gwaith allweddol. Un ffordd o wneud hyn yw trwy lywodraethwyr cyswllt sy’n gysylltiedig â maes cwricwlwm neu grŵp blwyddyn. Mae hyn yn helpu i rannu’r llwyth gwaith ac yn cynorthwyo llywodraethwyr i gyflawni eu rôl strategol. Bydd pob ysgol yn penodi llywodraethwr i oruchwylio trefniadauContinue reading “Defnyddio profiadau ac arbenigedd llywodraethwyr i fynd i’r afael â materion ysgol”

Sut i sicrhau bod polisïau’n addas i’r diben

Sylwebaeth Un o brif gyfrifoldebau cyrff llywodraethu yw “gosod polisïau ar gyfer yr ysgol i gyflawni’r nodau a’r amcanion”.  Ffynhonnell: Rheoliadau Cylch Gwaith (Cymru) 2000. Mae gan ysgolion amryw bolisïau ar waith, y mae llawer ohonynt yn statudol, y mae’n rhaid iddynt oll gael eu cadw’n gyfredol a bod yn addas i’r diben.   Pan fyddContinue reading “Sut i sicrhau bod polisïau’n addas i’r diben”

Mynd i’r afael â materion iechyd a diogelwch yn ymwneud ag adeilad yr ysgol

Sylwebaeth Yr Awdurdod Lleol (ALl) sy’n berchen ar adeiladau a thir ysgolion cymunedol.  Y corff llywodraethu neu’r ymddiriedolwyr sy’n berchen ar dir ysgolion sefydledig.  O ran ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir, yr ymddiriedolwyr sy’n berchen ar adeiladau a thir yr ysgol fel arfer, er efallai mai’r Awdurdod Lleol fydd yn berchen ar dir y maes chwarae. Continue reading “Mynd i’r afael â materion iechyd a diogelwch yn ymwneud ag adeilad yr ysgol”

Design a site like this with WordPress.com
Get started