Design a site like this with WordPress.com
Get started

Dod yn gorff llywodraethu ffederal

Sylwebaeth

Mae nifer y cyrff llywodraethu ffederal yng Nghymru yn cynyddu, felly mae’n ddefnyddiol edrych ar y gofynion penodol a sut mae ‘ffederasiwn’ yn dod i fodoli yn ymarferol.

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybodaeth a chyngor defnyddiol ynglŷn â’r broses i’w dilyn i sefydlu corff llywodraethu ffederal, yn ogystal ag agweddau ymarferol i’w hystyried. Dyma’r ddolen:

https://llyw.cymru/proses-ffedereiddio-ysgolion-gynhelir-canllawiau-ar-gyfer-cyrff-llywodraethu-ac-awdurdodau-lleol

Yn ei hanfod, mae’r ffederasiwn o ysgolion yn eu galluogi i gydweithio mewn ffordd strwythuredig trwy rannu corff llywodraethu. Gall hyd at chwe ysgol i gyd ffurfio ffederasiwn. Mae ffederasiwn yn cynyddu gwaith partneriaeth a chydweithredu, a gall helpu i wella perfformiad cyffredinol ysgolion a disgyblion. Fel popeth arall, er mwyn i ffederasiwn fod yn wirioneddol lwyddiannus, mae’n rhaid i bawb sy’n gysylltiedig wneud ymdrech ac ymrwymo er mwyn iddo lwyddo.

Mae’n anochel y bydd hyn yn cymryd amser, o’r cynnig cychwynnol i sefydlu’r ffederasiwn ei hun, a pho fwyaf ysgolion sy’n gysylltiedig, y mwyaf amser fyth y bydd yn ei gymryd.

Mae’r astudiaeth achos yn canolbwyntio’n benodol ar adolygu polisïau a sut aeth y pwyllgor polisïau ati i ymgymryd â’r maes gwaith hwn. 

Mae’n wir y gallai casglu polisïau ynghyd o sawl ysgol fod yn dipyn o orchwyl. Fodd bynnag, mae’n bosibl y byddai sawl un o’r polisïau Adnoddau Dynol wedi bod yr un fath ym mhob un o’r ysgolion, yn enwedig os oedd yr Awdurdod Lleol wedi cynhyrchu polisïau penodol i’w haddasu gan gyrff llywodraethu ysgolion.  

Mae gan Wasanaethau Llywodraethwyr Cymru restr ddiffiniol o bolisïau statudol a ddylai fod gan gyrff llywodraethu.

http://governors.cymru/cyhoeddiadau/2018/08/29/dogfennau-polisi/

Wrth symud ymlaen, mae rhestr wirio ar gyfer adolygu polisïau yn galluogi ymagwedd gynlluniedig a graddol gydag amserlenni diffiniedig, fel nad yw’r gorchwyl yn rhy lethol. Mae’r gwaith caled o adolygu a chytuno ar yr holl bolisïau ar gyfer y ffederasiwn wedi cael ei wneud bellach.  Dylai fod yn haws o lawer wrth symud ymlaen.

Mae Estyn wedi cynhyrchu adroddiad thematig ar ffederasiynau effeithiol a allai fod yn ddefnyddiol os yw’ch corff llywodraethu’n ystyried ffederasiwn.

https://www.estyn.llyw.cymru/adroddiadau-thematig/ysgolion-ffederal-nodweddion-cyffredin-ffedereiddio-effeithiol

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s

%d bloggers like this: