Beth oedd y mater yr ymdriniwyd ag ef?
Mater anodd – trafod a chytuno ar gyflogau ar gyfer tîm newydd o ddirprwyon mewn ysgol newydd sbon. Mae’n anodd oherwydd bod rhai aelodau o’r corff llywodraethu eisiau rhoi’r un cyflog i’r holl ddirprwyon newydd gan y byddant i gyd yn newydd i’r swydd, tra bod eraill eisiau cydnabod profiad blaenorol trwy amrywiadau i gyflogau.
Teimlais fod y drafodaeth yn cael ei harwain gan bawb ar sail ‘greddf’ yn hytrach nag ymagwedd gadarn a phroffesiynol. Roeddwn yn fodlon â’r penderfyniad terfynol ond braidd yn anghyfforddus gan ei fod yn teimlo fel ‘proses o ddyfalu’. Nid oedd y rhai a oedd yn bresennol wedi cyfeirio at ganllawiau na rheolau.
Beth ddigwyddodd?
Mae unigolion ar y corff llywodraethu yn rhoi eu barn unigol. Mae swyddogion yr Awdurdod Lleol yn cynghori. Mae cynigion wedi cael eu cyflwyno.
Pa wersi a ddysgwyd?
Datryswyd y mater ond rwy’n dal i deimlo braidd yn anghyfforddus gan nad oeddem wedi dilyn unrhyw ganllawiau cydnabyddedig. Gwers – y tro nesaf, wrth ymdrin â mater o’r natur hon, byddwn yn gofyn a oes canllawiau ar gael.
Myfyrdodau…
Pa bolisïau sydd ar waith yn eich ysgol i gytuno ar gyflogau ar gyfer staff newydd?
A oes diwylliant yn eich corff llywodraethu o geisio cyngor ac arweiniad proffesiynol?
Dweud eich dweud… A ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain? Beth yw’ch barn am y sefyllfa a ddisgrifiwyd?
One thought on “Sut i gytuno ar gyflogau staff sy’n symud i ysgol newydd”